Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 9 Hydref 2018
Amser:
09.30 -
10.26
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Jayne Bryant AC (Cadeirydd) Andrew RT Davies AC Llyr Gruffydd AC |
Comisiynydd Safonau: |
Syr Roderick Evans QC |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) Owain Roberts (Ysgrifenyddiaeth) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Gareth Bennett AC.
1.3 Croesawodd y Cadeirydd Andrew R.T. Davies AC i'w gyfarfod cyntaf yn sgil cael ei ethol yn aelod o'r Pwyllgor ar 18 Medi 2018, a diolchodd i Paul Davies AC am ei holl gyfraniadau i waith y Pwyllgor.
2.1 Trafododd yr Aelodau ymateb Comisiwn y Cynulliad i'r argymhellion a geir yn yr adroddiad 'Creu'r Diwylliant Cywir'.
2.2 Cytunodd yr Aelodau y byddai'r Cadeirydd yn ymateb i'r Llywydd a gofyn am amserlen gliriach ar gyfer ymateb i Argymhelliad 14.
2.3 Nododd yr Aelodau y bydd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru i Argymhelliad 12 ar gael yn ddiweddarach yn y mis ac y bydd yn cael ei drafod yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.
3.1 Trafododd yr Aelodau Adroddiad Monitro'r Grwpiau Trawsbleidiol 2017-18 a baratowyd gan y Swyddfa Gyflwyno ar gyfer y Pwyllgor yn unol â pharagraff 44 o'r rheolau ar weithredu Grwpiau Trawsbleidiol.
3.2 Cytunodd yr Aelodau y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at y Llywydd yn nodi eu hargymhellion a'r camau a awgrymir ar gyfer y Grwpiau Trawsbleidiol nad ydynt wedi cydymffurfio â'r rheolau ac sydd o'r herwydd yn dod o dan Gategorïau B ac C yn yr Adroddiad.